Rheoleiddio a Diwygio

Cyflwyniad

Mae Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio cymwysterau, heblaw graddau, yng Nghymru. Rydym yn gorff statudol annibynnol ac rydyn ni'n atebol i bobl Cymru drwy Senedd Cymru. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r sefydliadau eraill sy'n ymwneud â chymwysterau, gan barchu ein rolau penodol.

Fel hynny, gyda'n gilydd, rydyn ni’n llunio cymwysterau sydd wirioneddol wedi’u Gwneud-i-Gymru ac sydd wedi'u cynllunio i fodloni anghenion penodol ein dysgwyr a'n heconomi ni.

Rheoleiddio

Mae cyrff dyfarnu yn gyfrifol am gyflawni eu cymwysterau. Ar ôl i ni gael ein cydnabod gennym am gyflwyno cymwysterau yng Nghymru, rhaid i'r corff dyfarnu gydymffurfio â'r rheolau a osodwyd gennym. Rydym yn gweithio'n agos gyda nhw i ddarparu fframwaith rheoleiddio sydd â'r bwriad o leihau methiannau a diogelu dysgwyr.

Fel rheoleiddiwr rydyn ni’n gosod y rheolau y mae'n rhaid i gyrff dyfarnu eu bodloni i gael eu cydnabod yma yng Nghymru.  Bwriad y rheolau hynny yw sicrhau bod cymwysterau’n adlewyrchu gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr yn gywir. Rydyn ni’n monitro eu gwaith yn erbyn y rheolau hyn, sy'n cwmpasu popeth o ddulliau asesu ac arferion graddio i ddarparu.

Cewch ragor o wybodaeth am ein gweithgareddau rheoleiddio isod.

Diwygio

O fis Medi 2022, gyda chyflwyniad y cwricwlwm newydd, gall ysgolion deilwra eu haddysgu a'u dysgu er mwyn bod yn berthnasol i ddysgwyr, a'u hanghenion a'u hamgylchiadau lleol.  Wrth i'r cwricwlwm newid, bydd cymwysterau hefyd yn newid.

Rydyn ni’n gweithio gydag ystod o randdeiliaid - gan gynnwys darlithwyr, arholwyr, rhieni, cyflogwyr, cyrff dysgedig a phroffesiynol, grwpiau â diddordeb mewn pynciau arbennig, prifysgolion a cholegau addysg bellach - i ddylunio, datblygu ac yna cyflwyno cymwysterau o safon fyd-eang.  Y gwaith hwn yw asgwrn cefn ein prosiect Cymwys ar Gyfer y Dyfodol.

Yn fwyaf diweddar, mae’r gwaith hwn yn cynnwys creu cyfres o gymwysterau TGAU newydd wedi’u Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cyn-16 eraill – sef y Cynnig Llawn 14-16.

Mae cymwysterau galwedigaethol yn cyfrif am dros 90% o'r cymwysterau rheoleiddiedig sydd ar gael yng Nghymru a dylent adlewyrchu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr.  Adolygiadau sector yw asgwrn cefn ein gwaith gyda chymwysterau galwedigaethol, gan ganiatáu inni ganolbwyntio ar gymwysterau o fewn sectorau cyflogaeth.

Rydyn ni hefyd am roi dewis cydlynol a chynhwysol o gymwysterau dwyieithog i ysgolion a cholegau ledled Cymru sy’n cefnogi eu cwricwlwm eu hunain ac sy’n bodloni anghenion eu dysgwyr.

Ymchwil ac Ystadegau

Caiff ein penderfyniadau eu llywio gan dystiolaeth a data. Mae ein tîm ymchwil ac ystadegau ein hunain yn cynhyrchu llawer o'r wybodaeth hon ac yn comisiynu ymchwil annibynnol. Rydyn ni’n rhannu gwybodaeth am gymwysterau yng Nghymru gydag unrhyw un sydd â diddordeb yn y ffordd mae'r system yn gweithio ac yn perfformio.

Dysgwch ragor am yr ymchwil a’r ystadegau diweddaraf am gymwysterau yng Nghymru.