Cyflwyniad
Cymwysterau Cymru ond yn prosesu eich data personol pan fydd sail gyfreithiol dros wneud hynny o dan GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018 y DU.
Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod eich data personol yn ddiogel. Er mwyn atal unrhyw fynediad neu ddatgeliad diawdurdod, rydym wedi rhoi gweithdrefnau technegol, ffisegol a rheolaethol priodol ar waith er mwyn diogelu'r wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch chi. Mae gennym sicrwydd trydydd parti ynghylch ein systemau diogelu gwybodaeth drwy ardystiad Cyber Essentials Plus.
Eich data personol
Gallwn gasglu data personol amdanoch chi drwy'r prosesau'r canlynol:
- drwy gasglu data dysgwyr gan gyrff dyfarnu a chyrff cyhoeddus eraill at ddibenion ymchwil ac ystadegol ac er mwyn cyflawni ein swyddogaeth fel rheoleiddiwr
- drwy ymgysylltu, ymchwilio ac ymgynghori â chi fel rhanddeiliaid
- pan fyddwch yn cofrestru i fynychu digwyddiad rhanddeiliaid
- pan fyddwch yn cysylltu â ni ag ymholiad neu gŵyn, Cais Gwrthrych am Wybodaeth, cais EPRS neu gais Rhyddid Gwybodaeth
- pan fyddwch yn gwneud cais am swydd gyda ni neu os ydych yn gyflogai presennol neu'n gyn-gyflogai
- pan fyddwch yn gwneud cais am gydnabyddiaeth fel corff dyfarnu
- pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan
- pan fyddwch yn tanysgrifio ar gyfer un o'n rhestrau postio
- pan fyddwch yn ymweld â'n swyddfa
- pan fyddwch yn cytuno ar gontract ar gyfer nwyddau neu wasanaethau gyda ni
Cymwysterau Cymru fydd "Rheolwr" unrhyw wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu. Pan fyddwn yn casglu data personol gennych chi neu amdanoch chi, bydd ein hysbysiadau preifatrwydd yn dweud wrthych am ein sail gyfreithiol dros gasglu’r data, pam bod ei angen, beth fyddwn yn ei wneud gyda'r data hynny, ein meini prawf ar gyfer pa mor hir byddwn yn eu cadw a ph'un a fydd angen i ni eu trosglwyddo i drydydd partïon i'w prosesu ar ein rhan.
Rhyddid Gwybodaeth
Nodwch, fel corff cyhoeddus, fod unrhyw wybodaeth ysgrifenedig a gedwir gennym (gan gynnwys ymholiadau ysgrifenedig) yn destun ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth.
Byddwn yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) wrth ystyried unrhyw geisiadau y gofynnir amdanynt o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Eich hawliau
Yn amodol ar rai eithriadau cyfreithiol, mae gennych hawl i wneud y canlynol:
- gwneud cais am gopi o'r wybodaeth bersonol y mae Cymwysterau Cymru yn ei chadw amdanoch
- gofyn i ni gywiro unrhyw wallau
- gofyn i'ch data eich data personol gael eu dileu
- cyfyngu ar ein gallu i brosesu eich data
- gwrthwynebu'r prosesu
- gwneud cais i'ch data gael eu cludo (cludadwyedd data)
Er mwyn dysgu mwy am yr hawliau hyn, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Anfonwch unrhyw geisiadau o'r fath at
Swyddog Diogelu Data Cymwysterau Cymru
Cymwysterau Cymru
Adeilad Q2, Lôn Pencarn
Parc Imperial
Coedcernyw
Casnewydd
NP10 8AR
01633 373222
Os nad ydych yn fodlon â'n hymateb, gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Diweddariad
Rydym yn adolygu ein polisi preifatrwydd yn rheolaidd ac o leiaf bob 12 mis. Diweddarwyd yr hysbysiad hwn ddiwethaf ar 16/11/2021