Pump aelod newydd i Bwrdd Cymwysterau Cymru
Dydd Gwener 12 Maw 2021Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi cyhoeddi penodiad Sharron Lusher, Hannah Burch, Douglas Blackstock, Michael Griffiths a Graham Hudson i Fwrdd Cymwysterau Cymru.
Sharron Lusher
Ymddeolodd Sharron Lusher fel Prif Weithredwr Coleg Sir Benfro ym mis Gorffennaf 2018, ar ôl dros 20 mlynedd yn y sector addysg a sgiliau. Yn ystod ei hamser yn y Coleg, bu’n allweddol wrth godi safonau, ffurfio partneriaethau cryf, a sefydlu Consortiwm dysgu seiliedig ar waith llwyddiannus.
Symudodd i Goleg Sir Benfro yn dilyn gyrfa yn Marks and Spencer, lle’r oedd, ar ôl cychwyn fel hyfforddai rheoli, yn gyfrifol yn y pen draw am y gwaith Logisteg Ewropeaidd, a leolir ym Mharis.
Ar hyn o bryd mae Sharron yn Gadeirydd Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, yn Gadeirydd Partneriaeth Sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch Cymru, ac yn aelod o Fwrdd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau. Fe'i penodwyd yn Ddirprwy Raglaw Dyfed yn 2010 ac ar hyn o bryd mae'n Uchel Siryf Dyfed tan fis Ebrill 2021.
Hannah Burch
Dechreuodd Hannah Burch ei gyrfa fel athrawes Ffrangeg ac Eidaleg yng ngogledd Llundain, cyn dychwelyd i Gymru i ymuno â thîm staff Teach First Cymru yn 2014.
Mae Hannah wedi gweithio’n gyfan gwbl gydag ysgolion sy'n gwasanaethu cymunedau difreintiedig; mae'n gyn-fyfyriwr rhaglen datblygu arweinyddiaeth Teach First ac mae ganddi MA mewn arweinyddiaeth gan y Sefydliad Addysg (Coleg Prifysgol Llundain).
Mae gan Hannah ymrwymiad cryf i ecwiti addysgol a chyhoeddodd erthygl ar y thema hon ar gyfer Cylchgawrn Addysg Cymru yn 2018. Mae'n anogwr profiadol ac yn eiriolwr brwd dros amrywiaeth a chynhwysiant, ac yn ddiweddar dechreuodd ar swydd newydd fel Rheolwr Datblygu Prosiect ar gyfer gwasanaeth ledled y DU a ddarperir gan Gyngor ar Bopeth.
Douglas Blackstock
Douglas Blackstock yw Prif Weithredwr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd annibynnol y DU ar gyfer Addysg Uwch (QAA), a'i rôl yw sicrhau bod safonau academaidd yn cael eu cynnal a bod cyfleoedd dysgu myfyrwyr o'r ansawdd uchaf.
Yn ogystal â rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru, mae QAA yn gweithio gyda Cholegau Cymru, ESTYN, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, UCM Cymru, Cymwysterau Cymru a Phrifysgolion Cymru.
Mae Douglas wedi bod â diddordeb arbennig mewn gweithio i sicrhau bod anghenion y pedair gwlad yn cael eu cydnabod; cynyddu ymgysylltiad myfyrwyr â sicrhau ansawdd; ymgyrchu yn erbyn 'melinau traethodau'; hyrwyddo Diploma Mynediad i Addysg Uwch yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd; a meithrin ymddiriedaeth a hyder mewn addysg yn y DU drwy bartneriaethau a rhwydweithiau rhyngwladol. Mae hefyd yn gwasanaethu ar Fwrdd y Gymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Sicrhau Ansawdd mewn Addysg Uwch (ENQA).
Michael Griffiths
Yn flaenorol, roedd Michael Griffiths yn Bennaeth Ysgol Uwchradd Caerdydd am 14 mlynedd ac yn Bennaeth Ysgol Gyfun y Barri am chwe blynedd. Ef oedd Cadeirydd cyntaf Gweithrediaeth Cymru iNet (Rhwydweithio Rhyngwladol ar gyfer Trawsnewid Addysgol) rhwng 2008 a 2011 ac fe’i secondiwyd i Lywodraeth Cymru yn 2008 fel cynghorydd proffesiynol.
Mae Michael wedi eistedd ar nifer o bwyllgorau Llywodraeth Cymru ac wedi ymgymryd â rolau fel ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys Cyd-arwain un o chwe grŵp sy'n llunio'r 'Cwricwlwm i Gymru' newydd. Ar hyn o bryd, mae Michael yn ymgynghorydd addysgol ac ers gadael prifathrawiaeth mae wedi darparu cyrsiau arweinyddiaeth ôl-raddedig ar gyfer gwahanol brifysgolion yng Nghymru ac ar gyfer ysgolion a cholegau yn y DU a thramor.
Rhwng 2012 a 2021 roedd yn aelod o Gyngor Cyngor Celfyddydau Cymru ac yn Gadeirydd pwyllgor Adnoddau Dynol a Chyflogau Cyngor y Celfyddydau.
Graham Hudson
Yn flaenorol, roedd Graham Hudson yn athro Ffiseg a Gwyddorau yn Ysgol Uwchradd Crofton yn Stubbington, Hampshire a symudodd i weithio i The Associated Examining Board, a ddaeth yn AQA. Gweinyddodd bynciau gwyddoniaeth, gan ddatblygu manylebau TGAU a'r Cwricwlwm Cenedlaethol ac roedd yn gyfrifol am farcio profion Cwricwlwm Cenedlaethol CA2 a CA3 ar gyfer de Lloegr.
Symudodd Graham i weithio i'r Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm sy'n gyfrifol am farcio holl brofion CA2 a CA3 ar gyfer Lloegr a chasglu data ar gyfer tablau perfformiad ac arweiniodd raglen ymchwil a ariennir yn gyhoeddus yn cynnwys pob gwlad ddatganoledig ar y defnydd o dechnoleg mewn arholiadau ac asesiadau. Yn ddiweddarach bu'n gweithio i DRS Data Services Limited a datblygodd un o'r systemau cyntaf ar gyfer marcio papurau arholiad ar-lein yn Lloegr – system a ddefnyddir heddiw yn y DU ac yn rhyngwladol.
Ar hyn o bryd mae'n cefnogi sefydliadau sy'n dymuno symud i asesiadau digidol prif ffrwd a hyrwyddo'r achos dros ddefnyddio asesiadau â chymorth technoleg yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac mae'n Aelod o Sefydliad y Cyfarwyddwyr, yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ac yn Gyn-fyfyriwr Prifysgol Southampton a Phrifysgol Kingston.
Dywedodd David Jones, OBE DL Cadeirydd Cymwysterau Cymru: “Rwy'n falch iawn o groesawu Sharron, Hannah, Douglas, Michael a Graham i'r Bwrdd.
Daw Sharron â phrofiad arweinyddiaeth o fyd busnes, addysg a'r sector cyhoeddus a safbwynt eang i'n bwrdd. Bydd profiad Hannah o addysgu, arwain ac ymrwymo i ecwiti addysgol yn ychwanegu gwerth sylweddol i'n gwaith.
Bydd profiad Douglas fel Prif Weithredwr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd annibynnol y DU ar gyfer Addysg Uwch (QAA) wrth sicrhau safonau academaidd a chyfleoedd dysgu o ansawdd uchel i ddysgwyr yn rhoi persbectif cryf o anghenion addysg uwch.
Mae profiad Michael fel pennaeth a chynghorydd i Lywodraeth Cymru ac fel darlithydd mewn arweinyddiaeth ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig, yn dod â chyfoeth o wybodaeth am y cwricwlwm newydd gyda golwg eang ar y sector addysg yng Nghymru. Mae Graham yn dod â'i brofiad ym maes addysgu, datblygu'r cwricwlwm cenedlaethol a datblygu asesiadau ar-lein, sy'n faes rydym am ei ddeall yn fwy yn y blynyddoedd i ddod."
Byddant yn ymgymryd â'u swyddi ar Fwrdd Cymwysterau Cymru ym mis Ebrill a mis Mehefin.