Athrawon, dysgwyr, cyflogwyr – rhowch eich barn at gymwysterau’r dyfodol
Dydd Mercher 27 Ion 2021Gofynnir i athrawon, dysgwyr, cyflogwyr a'r cyhoedd ddweud eu dweud am yr ystod o gymwysterau TGAU a fydd ar gael yng Nghymru yn y dyfodol.
O 2022, bydd cwricwlwm newydd yn seiliedig ar chwe maes dysgu eang:
- y celfyddydau mynegiannol
- iechyd a lles
- y dyniaethau
- ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
- mathemateg a rhifedd
- gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae Cymwysterau Cymru yn cynnal ymgynghoriad, Cymwys ar gyfer y dyfodol, i gasglu barn ar yr ystod o gymwysterau y dylai ysgolion a dysgwyr allu dewis ohonynt ar ôl i'r cwricwlwm newydd ddod i rym. Y cyfle cyntaf i ddysgwyr sefyll y cymwysterau newydd fydd yn 2027.
"Mae llawer o bethau i bobl ddweud eu dweud amdanynt, gan gynnwys cynigion ar gyfer TGAU newydd mewn Astudiaethau Cymdeithasol a Pheirianneg; TGAU cyfunol newydd ym maes Mathemateg, Cymraeg, Saesneg a Gwyddoniaeth; yn ogystal â chymwysterau byr sy'n targedu sgiliau ymarferol mewn mathemateg ac ieithoedd." meddai Emyr George, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau.
"Mae'n bwysig ein bod yn clywed gan gynifer o bobl â phosibl, i wneud yn siŵr bod dysgwyr yng Nghymru yn gallu dewis o'r cymysgedd cywir o gymwysterau.
"Rydyn ni eisiau gwybod beth rydych chi'n ei feddwl, p'un a ydych chi'n athro, yn rhiant, yn ddysgwr, yn gyflogwr neu ddim ond yn rhywun sydd â diddordeb yn addysg pobl ifanc yn y dyfodol.
"Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â'r dewis o bynciau a chymwysterau a ddylai fod ar gael i ddysgwyr a fydd wedi dilyn y cwricwlwm newydd. Byddwn yn edrych ar gynnwys ac asesiad penodol cymwysterau unigol yn nes ymlaen yn seiliedig ar ymchwil a chan weithio gydag athrawon, dysgwyr a chyrff dyfarnu.
"Rydyn ni'n gwybod ei bod hi’n gyfnod eithriadol o brysur a heriol i bawb. Ond rydyn ni'n gwneud hyn nawr i wneud yn siŵr bod pawb yn gallu dweud eu dweud ar y penderfyniadau pwysig hyn ac i wneud yn siŵr bod ysgolion a dysgwyr yn cael digon o amser i baratoi ar gyfer unrhyw newidiadau.
"Rydyn ni wedi ceisio ei gwneud mor hawdd a chyflym â phosibl i bobl ddweud wrthym beth sydd bwysicaf iddyn nhw."
Mae manylion llawn yr ymgynghoriad, gan gynnwys fersiwn sy’n addas i bobl ifanc, ar wefan Cymwysterau Cymru. Bydd yr ymgynghoriad yn para tan fis Ebrill.