Grŵp Cynghori ar Ymchwil Cymwysterau Cymru
Prif ddiben ein Grŵp Cynghori ar Ymchwil yw helpu'r sefydliad i gyflawni ei brif nodau, sef sicrhau bod cymwysterau a'r system gymwysterau yng Nghymru yn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr ac yn ennyn hyder y cyhoedd.
Sefydlwyd y grŵp er mwyn helpu i ddatblygu'r gwaith ymchwil a wneir gan y sefydliad drwy ddarparu cyngor ar ddyluniad yr ymchwil, y fethodoleg, y gwaith dadansoddi a'r broses adrodd ar ganfyddiadau, ynghyd â herio hyn oll.
Mae'r grŵp yn cynnwys y cadeirydd, hyd at chwe aelod allanol ac un aelod o Fwrdd Cymwysterau Cymru.
Mae'r grŵp yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn o leiaf, ond gall aelodau roi cyngor ychwanegol yn ôl yr angen. I gael rhagor o wybodaeth am y cylch gorchwyl, cliciwch yma.
Alison Standfast, Cadeirydd
Alison Standfast, Cadeirydd
Alison Standfast yw Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau Corfforaethol Cymwysterau Cymru. Mae hi’n gofalu am yr holl syddogaethau corfforaethol, gan gynnwys y tîm ymchwil ac ystadegau. Cyn ymuno â Cymwysterau Cymru, bu’n gweithio i Lywodraeth Cymru am 13 blynedd, yn rheoli is-adran gaffael Gwerth Cymru, cyn symud i redeg y prosiect i greu Cymwysterau Cymru. Cyn hyn, bu’n gweithio i British Airways am 17 blynedd mewn sawl rôl fasnachol.
Isabel Nisbet, Yr Aelod o Fwrdd Cymwysterau Cymru
Isabel Nisbet, Yr Aelod o Fwrdd Cymwysterau Cymru
Mae Isabel Nisbet wedi cael gyrfa ym maes gwasanaeth cyhoeddus a rheoleiddio, yn enwedig addysg ac asesu addysgol. Bu mewn nifer o swyddi yn y gwasanaeth sifil yn yr Alban a Lloegr, ac yn 2008 daeth yn Brif Swyddog Gweithredol cyntaf Ofqual, y rheoleiddiwr arholiadau a chymwysterau yn Lloegr. O 2011 i 2014, bu’n gweithio yn Ne-ddwyrain Asia ar ran Cambridge International Examinations. Mae Isabel yn Ddarlithydd Cyswllt yn y Gyfadran Addysg, Prifysgol Caergrawnt. Mae'n gwasanaethu ar Fyrddau Prifysgol Swydd Hertford a'r Coleg Prifysgol Osteopathi, ac mae ar ddau bwyllgor sy'n cynghori'r Llywodraeth ar gwestiynau moesegol.
Anne Pinot de Moira, Aelod
Anne Pinot de Moira, Aelod
Mae Anne yn Ystadegydd Siartredig (CStat) sydd â mwy nag 20 mlynedd o brofiad, ym maes addysg ac asesu yn bennaf. Rhwng 1996 a 2014, gweithiodd i AQA yn y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Addysgol (CERP) lle daeth yn Bennaeth Ymchwil Asesu. Yn ystod ei hamser yn AQA, cafodd ei gwaith ymchwil ei ddefnyddio i ddylanwadu ar benderfyniadau polisi ac i gefnogi newidiadau i asesiadau cenedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Ers 2015, mae wedi bod yn gweithio'n annibynnol fel ymgynghorydd. Mae wedi gweithio'n agos gydag Ofqual ac wedi cydweithio â byrddau arholi a phrifysgolion. Yn fwyaf diweddar, bu'n gweithio gyda Phrifysgol Rhydychen yn helpu gyda gwaith gwerthuso ystadegol ar effaith lwybrau TGAU llinol a modiwlar ar gyrhaeddiad. Roedd gwaith ymchwil mwyaf diweddar Anne yn canolbwyntio ar ansawdd asesu, dibynadwyedd marcio a llunio cynllun marcio, ond mae hefyd wedi gwneud gwaith ymchwil ym meysydd llunio asesiadau, safonau a chymaroldeb.
Dr Joshua McGrane, Aelod
Dr Joshua McGrane, Aelod
Athro Cyswllt a Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Asesu Addysgol Prifysgol Rhydychen yw Joshua. Enillodd fedal am ei PhD mewn Seicoleg Feintiol o Brifysgol Sydney ac astudiodd ei radd BA (Anrhydedd I) mewn Seicoleg yno hefyd. Bu'n Gymrawd Ôl-ddoethurol yn Ysgol Addysg i Raddedigion Prifysgol Gorllewin Awstralia ac mae hefyd wedi gweithio fel Seicofydryddwr ar gyfer Canolfan Ystadegau a Gwerthuso Addysg (CESE) yn Adran Addysg De Cymru Newydd.
Ar hyn o bryd, mae Joshua'n ymgymryd â Chymrodoriaeth Addysg, a ariennir gan AQA, yng Nghanolfan Asesu Addysgol Prifysgol Rhydychen. Mae ei waith yn canolbwyntio ar faes asesu a seicometrigau sy'n cynnwys cydweithio ag aelodau o'r Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Addysgol (CERP). Mae wedi rhoi cyngor seicometrig arbenigol mewn amrywiaeth o gyd-destunau academaidd a llywodraethol, gan gynnwys ar gyfer asesiadau addysgol gwladol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Jane Nicholas, Aelod
Jane Nicholas, Aelod
Yn gyn-athrawes ac addysgwr athrawon, mae Jane wedi gweithio ym maes datblygu ac asesu profion yn Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg (NFER) Cymru ers 18 mlynedd. Mae ganddi gymhwyster TAR (Uwchradd), a gradd MA mewn Addysg. Mae wedi ymwneud â'r gwaith o ddatblygu profion Cymraeg statudol CA3, Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) ac mae hefyd wedi gweithio ar Ddeunyddiau Asesu Sgiliau Dewisol CA2 a Phrofion Darllen Cenedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru.
Ar hyn o bryd, mae'n gweithio ar ddatblygu amrywiaeth o asesiadau darllen ar gyfer y cwricwlwm cenedlaethol yn Lloegr yng Nghanolfan Asesu NFER ac yn gwneud gwaith ymchwil ar e-asesu. Mae Jane wedi datblygu deunyddiau ystafell ddosbarth ac adnoddau addysgol ar gyfer amrywiaeth o gleientiaid gan gynnwys Coed Cadw a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dr Mary Richardson, Aelod
Dr Mary Richardson, Aelod
Mae Mary Richardson yn Athro Cyswllt Asesu Addysgol yn Sefydliad Addysg Llundain, Coleg Prifysgol Llundain (UCL IOE). Mae'n arwain gradd MA mewn Asesu Addysg ac yn goruchwylio ymgeiswyr doethurol sydd â diddordeb mewn asesu. Cyn dechrau yn ei rôl yn UCL IOE, arweiniodd Mary y radd BA mewn Astudiaethau Addysgol ym Mhrifysgol Roehampton, a chyn iddi gamu i'r byd academaidd, roedd Mary yn Uwch Swyddog Ymchwil yn adran Ymchwil ac Ystadegau AQA. Mae Mary hefyd wedi gweithio ym maes datblygu rhaglenni addysgol gyda sefydliadau ymgyrchu nad ydynt yn rhai llywodraethol ac elusennau plant. Mae hefyd wedi gweithio fel hwylusydd a chynhyrchydd theatr gyda phobl ifanc.
Mae Mary yn eistedd ar Fwrdd Cyhoeddiadau’r Gymdeithas Asesu a Gwerthuso (Ewrop) ac ar Gyngor Cymdeithas Athroniaeth Addysg Prydain Fawr (golygydd y wefan).Mae'n gwneud gwaith ymchwil sy'n canolbwyntio ar asesu gyda phwyslais penodol ar y ffordd y gall athroniaeth addysg a disgwrs athronyddol ein helpu i wella ymarfer asesu a'r ffordd rydym yn trafod ac yn deall asesu mewn lleoliadau cyhoeddus.
Dr Rhian Barrance, Aelod
Dr Rhian Barrance, Aelod
Mae Rhian yn Gydymaith Ymchwil yn Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd. Cyn ymuno â WISERD, cwblhaodd ei PhD mewn Addysg ym Mhrifysgol Queen's, Belfast. Roedd ei PhD yn cynnwys defnyddio cymysgedd o ddulliau gweithredu i nodi barn a phrofiadau myfyrwyr o gymwysterau TGAU a'r broses o'u diwygio yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.
Ar hyn o bryd, mae Rhian yn gweithio ar Astudiaeth Aml-Gohort WISERD, sef astudiaeth gohort hydredol fawr sydd wedi bod yn holi myfyrwyr ledled Cymru ar agweddau ar eu bywydau ac addysg dros y saith mlynedd diwethaf. Mae ei ffocws ymchwil ar y prosiect hwn yn ymwneud â barn a phrofiadau pobl ifanc o asesiadau cenedlaethol, yn enwedig o fewn y cymwysterau TGAU diwygiedig yng Nghymru.
Sarah Maughan, Aelod
Sarah Maughan, Aelod
Sarah yw Cyfarwyddwr Datblygu Asesiadau AlphaPlus. Ymunodd â'r sefydliad ym mis Tachwedd 2014 ac, ers hynny, mae wedi arwain nifer o brosiectau sy'n gysylltiedig â gwaith asesu gan gynnwys y canlynol: prosiect ar ddulliau graddio ar gyfer cymwysterau galwedigaethol, astudiaeth ddilysu fawr o arholiad ar gyfer cyfreithwyr a threialu cynllun prawf cenedlaethol ar gyfer Ofqual. Cyn ymuno ag AlphaPlus Sarah oedd cyfarwyddwr Ymchwil y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg (NFER). Mae Sarah yn meddu ar radd Dosbarth Cyntaf mewn Seicoleg, gradd Meistr mewn Asesu Addysgol, ac mae'n Gymrawd y Gymdeithas Asesu Addysgol - Ewrop. Mae Sarah hefyd yn eistedd ar bwyllgor cyhoeddiadau'r Gymdeithas Ryngwladol er Gwerthuso Cyflawniadau Addysgol (IEA).
Ar hyn o bryd, mae Sarah yn arwain prosiect pedair blynedd i ddatblygu asesiadau cenedlaethol ym meysydd darllen a rhifedd ar gyfer dysgwyr rhwng 7 a 14 oed yng Nghymru. Mae Sarah hefyd wedi arwain prosiectau ymchwil ehangach, gan gynnwys adolygiadau llenyddiaeth o'r defnydd o werslyfrau, cymwysterau TGAU Saesneg a Mathemateg ôl-16 a dulliau addysgu ac asesu ieithoedd tramor modern. Mae Sarah yn arbenigo ym maes cynllunio, datblygu a gwerthuso asesiadau. Mae hefyd yn arbenigo mewn amrywiaeth eang o dechnegau ymchwil, gan gynnwys gwerthusiadau, adolygiadau llenyddiaeth, astudiaethau cymharol a phrofion rheoli ar hap. Mae wedi gwneud gwaith helaeth gyda sefydliadau asesu a Gweinyddiaethau Addysg yn y DU a thu hwnt.