Sgiliau Hanfodol Cymru
Nod cymwysterau Sgiliau Hanfodol yw asesu'r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr er mwyn dysgu, gweithio a byw'n llwyddiannus. Mae cyfres cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn cynnig ysgol ddilyniant o Lefel Mynediad 1 i Lefel 3 mewn Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol, Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol, Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol ac o Lefel Mynediad 3 i Lefel 3 mewn Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Egwyddorion Dylunio
Mae'r Egwyddorion Dylunio yn amlinellu'r rhesymeg, y strwythur, y nodau, y deilliannau dysgu a'r gofynion asesu ar gyfer cyfres cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru. Mae'r fersiwn fwyaf cyfredol o'r Egwyddorion Dylunio ar gael yma.
Meini Prawf
Cafodd y meini prawf ar gyfer cyfres cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru eu datblygu ar y cyd â chyrff dyfarnu y mae pedwar ohonynt yn cynnig y cymwysterau: Agored Cymru, City & Guilds, Pearson Education a CBAC. Maent wedi'u datblygu i'w defnyddio ym maes Addysg Bellach, Dysgu Seiliedig ar Waith, Dysgu Oedolion yn y Gymuned a lleoliadau amgen.
Asesu
Caiff cymwysterau Lefel Mynediad Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol a Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol eu hasesu drwy dasg reoledig; a chaiff Lefelau 1 i 3 eu hasesu drwy dasg reoledig a phrawf cadarnhau.
Caiff cymwysterau Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol eu hasesu drwy dasg reoledig a thrafodaeth strwythuredig ar bob lefel.
Adolygu
Yn 2017, gwnaethom gynnal adolygiad helaeth o'r broses o gyflwyno'r cymwysterau Sgiliau Hanfodol diwygiedig. Roedd sawl un o ganfyddiadau'r adolygiad yn gadarnhaol. Fodd bynnag, gwnaeth yr adolygiad hefyd nodi nifer o broblemau, pryderon a heriau a effeithiodd ar y broses o gyflwyno'r cymwysterau yn llwyddiannus. O ganlyniad, gwnaethom gyhoeddi cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r pryderon a nodwyd gan yr adolygiad.
Mae'r adroddiad llawn a'r cynllun gweithredu ar gael yma.