Fforwm i Gyrff Dyfarnu 2022
Cydweithio’n dda - 15 Rhagfyr 2022
Eleni cynhaliwyd ein seithfed Fforwm i Gyrff Dyfarnu Blynyddol yn rhithiol a'r nod oedd darparu gwybodaeth a mewnwelediad ar flaenoriaethau strategol Cymwysterau Cymru.
Wedi'i deilwra'n benodol ar gyfer ein Cyrff Dyfarnu cydnabyddedig yng Nghymru, roedd agenda brysur wedi'i chynllunio nid yn unig i hysbysu, ond hefyd i ennyn hyder yn y system gymwysterau a chymwysterau yng Nghymru
Cawsom gyflwyniadau gan siaradwyr o Gymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru.
Yn y digwyddiad, clywodd ein mynychwyr:
- sut mae'r cwricwlwm 14-16 yng Nghymru yn newid a sut i gymryd rhan
- cefnogaeth sydd ar gael i hyrwyddo a hwyluso cymwysterau cyfrwng-Cymraeg
- gwaith diwigio cymwysterau ôl-16
- y diweddaraf am y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
- Diweddaraf ar fframweithiau prentisiaethau Llywodraeth Cymru
- Asesiad digidol.