Swyddi gwag presennol
Cyfleoedd recriwtio yn Cymwysterau Cymru.
Caiff ein holl swyddi gwag eu hysbysebu yma ac ar Twitter. Gofynnwn yn garedig i chi beidio ag anfon CV's ar hap oherwydd nad oes modd i ni eu cadw ar ffeil.
Gallwch lawrlwytho cyngor ar sut i wneud cais.
Ar hyn o bryd mae pob gweithiwr yn gweithio gartref yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth.
Ar hyn o bryd rydym yn adolygu beth fydd ein dull gweithredu pan fydd gweithleoedd yn dychwelyd i rywbeth mwy normal. Rydym yn ystyried opsiynau hyblyg ond nid yw'r rhain wedi'u penderfynu eto a bydd y rôl yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd weithio yn y swyddfa am gyfran o'r wythnos.
Rheolwr Cyllid
Band 4 - £39,310 - £47,000 y flwyddyn
Parhaol, llawn amser. Gellir trafod ceisiadau am batrymau gwaith amgen, gan gynnwys Rhan Amser, Rhannu Swydd a secondiadau, yn y cyfweliad.
Yn ogystal â chyflog, rydym yn cynnig 30 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ychwanegol at wyliau cyhoeddus a hyd at dri diwrnod pan fydd y swyddfa ynghau adeg y Nadolig), trefniadau gweithio hyblyg ac aelodaeth o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.
Mae hon yn swydd newydd a fydd yn cefnogi’r Penneth Cyllid yn uniongyrchold, byddai'n gyfle delfrydol i unigolyn sydd eisiau profi'r ystod gyfan o swyddogaethau cyllid ynghyd â chyfrifoldeb am gynghori'r Bwrdd. Mae angen gallu proffesiynol uwch ychwanegol i gefnogi'r ystod gynyddol o waith cyllid sydd ei angen ar y sefydliad, i gyflawni ei weithgareddau rheoleiddio ac i gyflwyno system gyllid newydd yn llwyddiannus, wrth gefnogi cyflwyno cynllun busnes heriol a sicrhau cadernid parhaus ein trefniadau rheoli ariannol.
I weld y swydd-ddisgrifiad llawn, cliciwch yma.
Darllenwch Sut i wneud cais yma.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 12 Mawrth 2021
Cyfweliadau: Dydd Gwener 26 Mawrth 2021