Cyflenwyr
Mae Cymwysterau Cymru yn prynu nwyddau a gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau Arbenigwyr Pwnc yng Nghymru. Mae'r cyflenwyr yn bartneriaid hollbwysig o ran ein helpu i gyflawni ein Prif Nodau.
Caffael yn Cymwysterau Cymru
Rydym yn cynnal ein gweithgarwch caffael yn unol â Chyfarwyddebau Caffael Cyhoeddus yr UE, Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 a Rheoliadau Contractau Consesiwn 2016. Gweler ein Polisi Caffael.
Er mwyn cyflawni arbedion, rydym yn awyddus i gydweithredu â chyrff eraill yn y sector cyhoeddus wrth ymgymryd â gweithgareddau caffael. Rydym yn defnyddio cytundebau fframwaith gan Wasanaeth Caffael Cenedlaethol Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Masnachol y Goron, ynghyd ag unrhyw drefniadau addas eraill sydd ar gael i ni.
GwerthwchiGymru
Gwefan gan Lywodraeth Cymru yw GwerthwchiGymru sy'n galluogi Busnesau Bach a Chanolig i weithio gyda'r sector cyhoeddus. Mae'r Sector Cyhoeddus yn hysbysebu hyd at £5 biliwn o hysbysiadau bob blwyddyn yn cynnig tendrau, ac mae nifer gynyddol o sefydliadau yn defnyddio'r wefan. Mae'r wefan yn eich galluogi i hyrwyddo eich cwmni, cysylltu â sefydliadau cofrestredig yn y sector cyhoeddus a chael y newyddion diweddaraf am gaffael yng Nghymru.
Caiff cyfleoedd contract gwerth £25,000 a throsodd eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru, a rheolir y broses dendro naill ai drwy'r porth hwn neu drwy etenderwales. Gall darpar gyflenwyr gofrestru am ddim ar y ddwy wefan hyn.
Gofynnir am o leiaf dri dyfynbris ar gyfer contractau gwerth rhwng £5,000 a £24,999 heb gynnwys TAW.
Telerau ac amodau
Oni chytunwyd ar delerau amgen o dan gytundeb fframwaith neu gontract, bydd Telerau ac Amodau Contract ar gyfer Archebion Prynu Cymwysterau Cymru (Saesneg yn Unig) yn berthnasol i bob pryniant.
Ar gyfer gwasanaethau pwnc arbenigol, bydd y telerau ac amodau canlynol yn berthnasol.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i'r Tîm Caffael.